Your browser version is outdated. We recommend that you update your browser to the latest version.

 

Mae hyd at naw plwyf yng Nghymru yn dwyn yr enw Llanbedr. Mae Llanbedr yn Ardudwy yn sefyll ar geulan yr afon Artro yn agos i draethau Abermaw a Harlech. Dyma le o brydferthwch mawr, yn cael ei gysgodi gan goed ac mae’r afon Artro yn cychwyn yng Nghwm Bychan, sy’n le nodedig am olygfa ramantus, clogwyni crib uchel a chreigiau danheddog y Rhinogydd sy’n ei gylchynu.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae tarddiad arall i’r afon yng Nghwm Nantcol, a disgynna’r dŵr mawnog dros raeadr odidog cyn ymuno â’r llif nid nepell o Gapel Salem, a wnaed yn enwog mewn darlun gan S.C. Vosper. Islaw, mae Pentre’ Gwynfryn, yn glwstwr del o dai, a choedwigoedd cynhenid gerllaw a gweirgloddiau yn ymwthio tua’r dorlan.

 

 

 

  

 

Wedi cyrraedd Llanbedr, llifa’r afon yn ei hysblander dan bont y pentref cyn tasgu’n chwim tuag at Mochras a lledaenu i aber o brydferthwch hynod ger Pensarn a Llandanwg.

 

 

Mae  hanes diddorol yn perthyn i’r ardal. Fe welir olion yr oesoedd cynnar mewn nifer o feini a chromlechi ar gyrion hen lwybrau sy’n ymestyn o’r môr i’r mynyddoedd. Mae nifer o gaerau a chlystyrau o dai crynion o’r oesoedd haearn yn y mynyddoedd, ac yn yr eglwys mae carreg hynafol wedi’i naddu ar ffurf  troell.

 

Ond hen chwedlau o’r oesoedd tywyll sy’n tanio’r dychymyg. Dywedir bod y bardd Taliesin yn gysylltiedig â’r ardal, a chyfeirir ato mewn chwedl am Gwyddno Garanhir a deyrnasodd dros Gantre’r Gwaelod, a’i fab Elffin a ddarganfu faban yng nghored bysgod, a’i enwi ar ôl Taliesin. Yn hyn o beth, crëwyd magwrfa i lu o straeon sy’n ymwneud â’r Mabinogion.